Beth yw Prosiect SIARC?
Mae amgylchedd forol Cymru’n gyforiog o fywyd; yn nyfnderoedd y dyfroedd llwyd ceir rhywogaethau anghyfarwydd o siarcod a morgathod (elasmobranchiaid) o bwysigrwydd cadwraethol.
Mae prosiect SIARC yn catalyddu cysylltiadau rhwng pysgotwyr, ymchwilwyr, cymunedau a’r llywodraeth i gydweithio a diogelu elasmobranchiaid a chefnogi adferiad gwyrdd yng Nghymru.
Dyma ein hamcanion:
Dyma ein prif rywogaethau:
Maelgi
- Enwau Saesneg: monkfish, angelshark, fiddle fish
- Bioleg: Yn tyfu i 240 cm; yn geni 7-25 o rai bach
- Statws: Mewn perygl mawr ar Restr Goch Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur (IUCN); rhan o un o’r teuluoedd o elasmobranchiaid sydd fwyaf dan fygythiad.
- Ffeithiau diddorol: Defnyddiwyd maelgwn gan y Rhufeiniaid ar un adeg i orchuddio tariannau a dolenni cleddyfau am fod eu crwyn yn wydn iawn
Ci pigog
- Enwau Saesneg: spurdog, spiny dogfish, rock salmon
- Bioleg: Yn tyfu hyd at 125 cm; yn geni rhwng 1 – 32 o rai bach
- Statws: Bregus ar Restr Goch Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur
- Ffaith ddiddorol: Pigyn bach gwenwynig ar waelod ei asgell ddorsal a ddefnyddir i’w amddiffyn sy’n gyfrifol am enw’r rhywogaeth
Morgath ddu
- Enw Saesneg: stingray, blue stingray
- Bioleg: Yn tyfu hyd at 140 cm; yn geni rhwng 4 – 9 o rai bach
- Statws: Bregus ar Restr Goch Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur
- Ffaith ddiddorol: Yn hanesyddol, credai pobl yng Nghymru fod gan afu’r forgath ddu fuddion meddyginiaethol o’i ferwi
Ci glas
- Enwau Saesneg: tope, school shark, snapper shark
- Bioleg: Yn tyfu hyd at 195 cm; yn geni rhwng 6 – 52 o rai bach
- Statws: Mewn perygl mawr ar Restr Goch Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur (IUCN)
- Ffaith ddiddorol: Tuedda’r ci glas i symud o gwmpas mewn heigiau y gellir eu rhannu yn ôl maint a rhyw
Morgath drwynfain
- Enw Saesneg: flapper skate, common skate
- Bioleg: Yn tyfu i hyd at 285cm; yn dodwy casys wyau yn y gwanwyn/haf
- Statws: Mewn Perygl Difrifol ar Restr Goch yr IUCN
- Ffaith ddiddorol: Y Forgath drwynfain yw'r forgath fwyaf yn Ewrop ac mae gan ei hadenydd rychwant o hyd at 2 fetr!
Morgath las
- Enwau Saesneg: blue skate, common skate
- Bioleg: Yn tyfu i hyd at 150cm; yn dodwy casys wyau yn y gwanwyn/haf
- Statws: Mewn Perygl Difrifol ar Restr Goch yr IUCN
- Ffaith ddiddorol: Mae'r Forgath Las mewn gwirionedd yn frown, ac mae i’w gweld yn fwy deheuol na’r Forgath Drwynfain.
Pwy sy’n cymryd rhan?
Prosiect amlddisgyblaethol yw prosiect SIARC, sy’n cyfuno gwyddoniaeth gymdeithasol a biolegol. Caiff ei arwain gan y Zoological Society of London (ZSL) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn partneriaeth â chwe partner cyflawni ac 13 partner cydweithredol.
Rydym yn gweithio gyda chymunedau arfordirol ledled Cymru, gan gynnwys pysgotwyr masnachol a hamddenol, gwirfoddolwyr sy’n wyddonwyr dinesig, ysgolion cynradd, ac ymchwilwyr. Os hoffech chi gymryd rhan, darganfyddwch fwy ar ein tudalen ‘Cymerwch Ran’.
Partneriaid Cyflawni
Mae Prifysgol Bangor yn cwblhau gwaith modeli hydrodynamig er mwyn helpu cynllunio a dehongli canlyniadau ar sail arolygon DNA (eDNA).
Mae Blue Abacus yn datblygu offer Fideo Tanddwr Abwyd o Bell (BRUV) ar gyfer Prosiect SIARC gan arwain at ddadansoddi lluniau BRUV o PLAS.
Mae Minorities in Shark Sciences yn helpu i ddarparu ein pecyn gwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac yn cynorthwyo gyda threfnu a chyflwyno gweithdy rhannu sgiliau.
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (YNGC) yn arwain rhai o fentrau gwyddoniaeth dinasyddion Prosiect SIARC, yn cynnwys trefnu grwpiau ymchwil archifol a helfa’r ymddiriedolaeth siarcod Shark Trust Great Eggcase Hunt ledled Cymru.
Mae’r ymddiriedolaeth siarcod Shark Trust yn datblygu canllawiau adnabod elasmobranchiaid ac wyau ar gyfer Cymru, er mwyn cefnogi ymwneud pysgotwyr ac ymchwil gwyddoniaeth dinasyddion. Maent hefyd yn cefnogi cyflawni helfeydd Great Eggcase Hunt YNGC ledled Cymru.
Mae Prifysgol Abertawe yn arwain o ran ymwneud ysgolion â Phrosiect SIARC, yn cynnwys datblygiad cyffrous argraffu 3D mewn ysgolion er mwyn dod â’n rhywogaethau allweddol i ddosbarthiadau ledled Cymru.
Partneriaid Cydweithredol
Bydd Prosiect Maelgi: Cymru yn parhau i redeg ochr yn ochr â Phrosiect SIARC gan gyflwyno elfennau o’r prosiect sy’n ymwneud â maelgwn yn benodol.
Cyllidwyr:
Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae’n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.